top of page

Am DdawnsBlast

Darganfod mwy am

RES ISEL MYDC seniors430.jpeg

Datblygu Dawns Ieuenctid

Josh a Bryan.JPG

Rhaglen Ddawns Amrwyiol

DawnsBlast yw’r sefydliad datblygu dawns ar gyfer Sir Fynwy sydd wedi’i leoli yn y Fenni. Mae ein canolfan ddawns yn cynnig dwy stiwdio sy'n cynnal amrywiaeth o ddosbarthiadau ar gyfer ein cymuned leol yn ogystal â lle ar gyfer datblygiad proffesiynol, hyfforddiant a pherfformiad. 
 
Rydym yn darparu ystod eang o weithgareddau i oedolion a phobl ifanc, gan gynnwys dosbarthiadau dawns wythnosol, gwersylloedd gwyliau, perfformiadau safle-benodol a digwyddiadau cymunedol. Rydym hefyd yn cynnal dosbarthiadau Dawns Awyrol a gweithdai gyda rigio arbenigol i hefyd allu cynnig dosbarthiadau Awyrol o fewn ein Rhaglen Ddawns Amrwyiol. Ochr yn ochr â’n dosbarthiadau cymunedol mae gennym hefyd dri chwmni perfformio: Cwmni Dawns Ieuenctid Sir Fynwy (MYDC), Cwmni Dawns Cysylltiedig Sir Fynwy (MCDC) a Chwmni Syrcas Ieuenctid Sir Fynwy (MYCC).

Ariennir Dance Blast gan Gyngor Sir Fynwy ac mae’n derbyn cyllid prosiect gan Loteri Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mae dros 500 o bobl yn mynychu'r Ganolfan Ddawns bob wythnos, beth am ddod yn un ohonyn nhw? Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio i gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl bethau Dance Blast
 
Mae gennym hefyd berfformiadau cyffrous yn y Ganolfan Ddawns gan artistiaid a chwmnïau o bob rhan o'r DU. Ewch i'n tudalen Beth Sydd Ymlaen am fanylion. 
bottom of page